Swydd Wag: Cyfleoedd Cyfnod Penodol a Secondiad Llywodraeth Cymru – Cymorth Tîm i Radd 7 Rydym yn chwilio am amrywiaeth eang o weision sifil i weithio mewn swyddi cyffrous amrywiol ar bob gradd, o Gymorth Tîm i Radd 7 ledled Llywodraeth Cymru. Patrwm gwaith: Mae croeso i geisiadau gan bobl sy’n gweithio’n rhan amser, fel rhan o gyfran swydd neu sy’n gweithio’n llawn amser. Math o gyfle: Mae rolau ar gael naill ai ar gyfer cyfleoedd tymor byr (6-12 mis) neu gyfleoedd tymor hwy (hyd at uchafswm o 2 flynedd). Lleoliad y Swydd: Rydym yn cefnogi gweithio gartref a theilwra patrymau i amgylchiadau unigol. Yn y tymor byr, bydd y rhan fwyaf o ddeiliaid swyddi wedi’u lleoli gartref/yn gweithio o bell. Ewch i llyw.cymru/gweithio-gydan-gilydd-dros-gymru-well i gael rhagor o wybodaeth a gwnewch gais heddiw am ein cyfleoedd diweddaraf. Cofion cynnes, Tîm Allgymorth Llywodraeth Cymru | Vacancy: Welsh Government Fixed Term and Secondment Opportunities – Team Support to Grade 7 We are looking for a diverse range of candidates to work in a variety of exciting roles at all grades from Team Support to Grade 7 across Welsh Government. Work pattern: Applications are welcome from people who work part time, as part of a job share or who work full time. Type of opportunity: Roles are available for either short-term opportunities (6-12 months) or longer term opportunities (up to a maximum of 2 years). Location of Post: We are supportive of home working and tailoring patterns to individual circumstances. In the short term, the majority of post holders will be based at home/working remotely. Visit gov.wales/working-together-better-wales for more information and apply today for our latest opportunities. Kind regards, Outreach Team Welsh Government |